Brecwast

Mae'n brecwastau eclectig yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Defyddir cynnyrch lleol o safon uchel  ar ein bwydlen.

Gweinir brecwast o gwmpas bwrdd eang, ac o fewn awyrgylch gyfeillgar ac anffurfiol, a hynny am 7.30, 8.00, 8.30 a 9.30  y bore. Ond rydym yn hapus i ddarparu brecwast yn gynharach ond i chi ofyn o flaen llaw. Bydd yn gaffaeliad pe medrech nodi amser a'ch dewis o frecwast y nos flaenorol - bydd hyn yn sicrhau bod eich brecwast yn cyrraedd yn ffres ac yn amserol. O fis Tachwedd 2018, ategir ein hystafell haul a fydd yn darparu mwy eto o ofod ar eich cyfer.

Daw ein bacwn a selsig o siop Y Cigydd, Rhydaman; ein bara o bobty teuluol Jenkins, a'n wyau o ddarparwyr lleol. Yn ogystal a brecwast wedi'i goginio, cynigwn amrywiaeth o ffrwythau tymhorol, iogwrt naturiol, sudd ffrwythau, grawnfwyd amrywiol, te Cymreig a choffi Coaltown sy'n cael ei rostio'n lleol yn Rhydaman. Cynhyrchwn ein jam a marmaled ein hunain, a gyda help ein gwenyn,  mel pur Pontyclerc!

Os ydych am fwyd sy'n rhydd o gluten , yn addas ar gyfer coelic, neu sydd  at ddant llesieuwyr neu vegan, dim ond gofyn sydd angen. Yn wir, wrth fwcio'ch ystafell nodwch unrhyw ofynion deiategol penodol er mwyn i ni fedru archebu unrhyw gynhwysion penodol ar eich cyfer mewn da bryd.