Ystafelloedd
Enwir ein tair ystafell osod, pob un a'i gymeriad unigol, sef Y Fferws, Y Llwchwr a'r Aman ar ol afonydd lleol. Mae pob un o'r ystafelloedd wedi'u cynllunio i safon aruchel, gyda ffitiadau o ansawdd uchel , dillad gwely cotwm o'r Aifft a thywelion moethus. Mae gan bob ystafell en suite safonol: Y Llwchwr ag ystafell gawod fawr a'r Fferws a'r Aman a'r gorau o ddau fyd gyda bath a chawod Fictorianaidd. Yn ogystal, mae gan bob en suite reil gynnes ar gyfer y tywelion, drych a golau sensor a phwynt siafo, a sebonau Myddfai, wedi'u darparu gan fusnes gymunedol leol.
Mae'r llenni trwm moethus ym mhob ystafell yn gweddu i'r clustogau a'r ffitiadau eraill. Mae'r gwaith adnewyddu yn y ffermdy yn gweddu i'r cyfnod Sioraidd ac i bwrpas gwreiddiol yr adeilad tra'n darparu cyfleusterau cyfoes , modern ar gyfer ein gwsteion. Mae'n cyfleusterau'n cynnwys:
Dreif a maes parcio preifat ac annibynnol sy'n rhad ac am ddim,
Pwynt 32 amp ar gyfer ceir trydan, (DOD YN FUAN)
Wifi band lydan ffeibr optig cyflym drwy'r ffermdy cyfan,
Teledu 32"smart ar gyfer pob ystafell gyda mynediad i Freeview, Netflix, Amazon a BBC iPlayer,
Hambwrdd o ddanteithion rhad ac am ddim, sy'n cynnwys dewis o de lleol, coffi, siocled poeth a waffles,
Sychwr gwallt,
Pwyntiau USB,
Unedau wardrob gyda darpariaeth o silffoedd a bachau dillad,
Desg a bwrdd gwisgo,
Cot a chadair uchel ar gyfer babanod ar gael pe dymunir,
En suites gyda sebonau Myddfai, drychau a goleuadau sensor, pwyntiau siafo a reils poeth ar gyfer tywelion.
Lleolir Y Fferws, Y Llwchwr a'r Aman ar y llawr cyntaf gydag ystafell llawr gwaelod wedi'i haddasu ar gyfer gwesteion anabl, sef Y Cennen ar gael o fis Tachwedd 2018.
LLOGI'N UNIONGYRCHOL - Trwy logi'n uniongyrchol gyda ni, gallwn sicrhau telerau rhatach. Gallwch wneud hynny drwy ein system fwcio ddiogel neu dros y ffon. Cynigwn ostyngiad ar gyfer gwesteion sy'n ail ymweld a ni.
Rydym yn derbyn Cardiau Credyd, Debit, trosglwyddiad banc a thaliadau ariannol.
Cyrraedd ac ymadael
Cyrraedd a chofrestru: 3.00 yp ymlaen. A fyddech gystal a chadarnhau eich amser cyrraedd a chysylltu dros y ffon neu drwy neges destun neu ebost os ydych yn debygol o fod yn hwyr .
Ymadael: Gofynnwn i chi adael eich ystafelloedd erbyn 10.30 ar fore eich ymadawiad.
Polisi Blaendal:
Gofynnwn am flaendal sy'n gyffelyb a chost eich noson gyntaf er mwyn bwcio a chadarnhau eich ystafell. Ni fyddwn yn cymryd y blaendal o'ch cyfrif banc tan 1 diwrnod cyn i chi fwcio mewn, felly a fyddech mor garedig a sicrhau bod manylion eich cerdyn credyd / debit yn gywir a chyfredol pan fyddwch yn bwcio.
Polisi Canslo:
Rydym yn fusnes bach, annibynnol a gall canslo gael effaith andwyol arnom. Er hynny, rydym yn derbyn bod amgylchiadau annisgwyl yn codi ar adegau ac rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi hynny.
Ni fyddwn yn codi ffi am ganslo ystafell os yw dros 1 diwrnod cyn eich cyrhaeddiad.
Os yw ystafell yn cael ei chanslo o fewn 1 diwrnod cyn y dyddiad cyrraedd, ni fydd y blaendal yn cael ei ad-dalu. Os medrwn ail-osod eich ystafell yn y cyfamser, byddwn yn ad-dalu'r blaendal meinws ffi gweinyddu o £20.
Neu gall eich blaedal gael ei ddefnyddio ar gyfer bwcio ystafell arall o fewn chwe mis o'r dyddiad gwreiddiol. Yn anffodus, os na fydd gwesteion yn ymddangos nac yn cysylltu o flaen llaw, bydd y gost lawn yn daladwy.
Anifeiliaid Anwes: Yn anffodus, nid ydym yn caniatau anifeiliaid anwes.
Ysmygu: Ni chaniateir ysmygu na'r defnydd o ganhwyllau ac ati o fewn y gwely a brecwast.