Cartref
Mae Gwely a Brecwast Fferm Pontyclerc yn wely a brecwast bwtic teuluol wedi'i leoli yng ngogoniant Gorllewin Cymru o fewn tafliad carreg i dref Rhydaman, ac eto mewn lleoliad gwledig godidog.
Yn wreiddiol roedd Fferm Pontyclerc yn rhan o Stad Dinefwr ac yn fferm o ryw 200 cyfer. Gellid olrhain y ffermdy gwreiddiol nol i'r 12fed ganrif, sef tŷ hir a newidiwyd i sgubor pan adeiladwyd y ffermdy presennol ar ddechrau'r 18fed ganrif. Erbyn hyn, mae'r sgubor yn swyddfa ac yn stordy i'n busnes argraffu llyfrau Sigma Press UK, sy'n argraffu llyfrau hanes a llyfrau ar gerdded a seiclo yn y DU a chwmni Stobart Davies sy'n arbenigo mewn llyfrau ar weithio gyda phren.
Yn wreiddiol roedd Pontyclerc yn cwmpasu Gwaith Brics Pontyclerc a Gwaith Glo Pontyclerc a newidiodd yn ddiweddarach i Waith Glo Pantyffynnon, gyda'r fferm yn darparu llaeth ffres i'r glowyr a weithiai yn y pwll. Mae'r fferm wedi bod yn y teulu dros chwe chenhedlaeth ac mae'n destun balchder i ni weld y ffermdy ar ei newydd wedd , wedi'i adnewyddu yn 2018 yn llety o ansawdd uchel sy'n cynnig i'n gwesteion foethusrwydd a'r cyfle i ymlacio yn ein ffermdy hardd a'r gerddi o gwmpas.
Ar hyn o bryd mae'r ffermdy yn darpau ystafell gyda dau wely, ac yna dwy ystafell ddwbl neu ystafelloedd teulu ar y llawr cyntaf, gydag ystafelloedd en suite. Hefyd mae ystafell gyda mynediad ar gyfer y llai abl lawr llawr sydd yn cwmpasu ystafell gawod. Mae gan y ffermdy ddreif a maes parcio penodedig. Gall ein gwesteion ddefnyddio lolfa gyfforddus sy'n cynnwys digonedd o le i eistedd, ynghyd a llyfrgell fach a chasgliad o gemau bwrdd. Gweinir brecwast yn yr ystafell fwyta ac yn hwyrach yn y flwyddyn ategir ystafell ychwanegol a fydd yn agored i'r ardd ac yn lecyn i fwynhau'r heulwen a'r golygfeydd mynyddig gerllaw.
Mae Pontyclerc yn gartref i ddau asyn hyfryd, sef Rosie a Jasmine; cwch o wenyn gweithgar a chath gyfeillgar. Gwnawn gymaint a fedrwn i ddiogelu'n hamgylchedd ac mae hyn yn cynnwys gwresogi'n hadeiladau gyda boiler beiomas, defnyddio bylbiau sy'n arbed egni, ailgylchu, ail-ddefnyddio'n papurau newydd i gynnau'r boiler ac i stwffio mewn esgidiau gwlyb mwdlyd! Rydym y gwbl ymrwymiedig i siopa'n lleol, sy'n lleihau teithio diangen ac yn cefnogi'n busnesau bach annibynnol a'r economi leol.
Lleolir Pontyclerc ar ddiwedd corridor yr M4, rhyw bedair milltir a hanner o gyffordd 49, ar yr A483. Nepell i ffwrdd mae arfordiroedd a thraethau Sir Gar, Bae Abertawe, Y Gwyr a Sir Benfro a nifer o lwybrau seiclo a cherdded, cestyll a llefydd o ddiddordeb cyfagos. Mae'n lleoliad perffaith i fanteisio ar atyniadau niferus Sir Gar, sy'n cynnwys Castell Carreg Cennen, Parc Dinefwr, pentrefi Llansteffan a Thalacharn a Phenbre. Mae'r llyfrau cyfair Darganfod Caerfyrddin, Ymweld a Bae Abertawe ac Ymweld a Sir Benfro i gyd yn cynnig llu o syniadau wrth i chi gynllunio'ch arhosiad gyda ni.